Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mai 2020
Amser:
13.04 -
15.51
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AS Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2.1 Bu aelodau’r pwyllgor yn holi Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a’i swyddogion ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19, a’r camau a gymerwyd ganddi hyd yma.
2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd ynghylch nifer o faterion.
2.3 Wrth i Aelodau drafod y dystiolaeth a ddaeth i law, nodwyd eu bod am gael gwybodaeth ychwanegol, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am y wybodaeth hon.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddatblygiadau o ran rhaglen waith Archwilio Cymru yn sgil yr argyfwng iechyd Cyhoeddus COVID-19, a’r penderfyniadau a gymerwyd yn hynny o beth.
4.2 Nododd yr Archwilydd Cyffredinol fod y sefydliad bellach wedi newid ei enw i ‘Archwilio Cymru’ yn sgil adborth gan randdeiliaid, staff a’r cyhoedd yng Nghymru.